cy-GB

gan Anita Wheeler

Cefais fy ngeni a’m magu yn Aberdaugleddau, yn Prioryville i fod yn fanwl gywir. Tridiau cyn fy mhenblwydd yn 11 mlwydd oed mynychais Ysgol Ramadeg Aberdaugleddau a gadewais yno i fynd i weithio yn Foster Wheeler pan oeddwn yn 17 oed.

Rydw i wedi canu ar hyd fy oes ac yn yr ysgol fi oedd yr unawdydd yn canu ar Ddydd Gŵyl Dewi ac ar ddiwrnodau lleferydd yr ysgol. Pan adewais yr Ysgol Ramadeg ym mis Ionawr, roedd yr ysgol ar fin uno'r côr â chôr y Central School, sef yr ysgol uwchradd ar y pryd. Ym mis Hydref cynt roedden ni wedi canu Corws Haleliwia. Ar yr adeg honno, Wally Walters oedd ein hathro cerdd. Yn ddiweddarach gadawodd Aberdaugleddau ac roedd yn sŵn mawr ar y sin gerddoriaeth ac ym Mhrifysgol Lerpwl.

Roeddwn i wedi bod yn y gwaith rhyw dair wythnos i fis pan ddaeth Wally a churo ar y drws a dweud, “Oes unrhyw siawns y gallwch chi ddod yn ôl i’r ysgol am brynhawn?” Dywedais "Pardwn?" ac eglurodd oherwydd bod gen i lais soprano cryf ac yn gallu taro nodau uchaf y Corws Haleliwia eu bod nhw angen fi yn ôl oherwydd nad oedd ganddyn nhw unrhyw un arall a allai wneud hynny. Golyga hynny nad oedden nhw'n mynd i'w ganu yng nghyngerdd yr ysgol. Cefais fy synnu’n fawr a dywedais nad oeddwn yn gwybod oherwydd dim ond ychydig wythnosau yr oeddwn wedi bod yn y gwaith. Ond dywedodd Wally wrthyf fod Mr Tidswell, sef y prifathro, wedi bod mewn cysylltiad â’m pennaeth yn Foster Wheeler, John Coulson, i ofyn a fyddai’n caniatáu i mi fynd yn ôl i’r ysgol am brynhawn. Cytunodd, ac felly es i yn ôl i'r ysgol. Rwy’n cofio dweud wrth Wally nad oeddwn wedi canu ei drefniant a dywedodd y byddai’n dod â’r gerddoriaeth i mi, ond ni wnaeth hynny!

Cyrhaeddais yr ysgol tua awr cyn yr oeddem i fod i ddechrau a gofynnais a allem gael ymarfer. Dywedodd yn iawn a gofynnodd i mi sefyll yn y cefn fel bod pawb yn gallu fy nghlywed yn dda. Fe wnaethon ni ganu Corws Haleliwia ac es i fyny i'r nodau uchaf ac aeth pawb i fyny gyda mi. Dywedais wrthyn nhw na fedrwn barhau i ddychwelyd yn flynyddol! A'r peth doniol oedd, roedd fy Mam wedi gwerthu fy ngwisg pan adewais, heblaw am y sgert. Felly pan es i nôl, rhaid oedd i mi fenthyg blows a thei. Unwaith y byddwch chi wedi gadael yr ysgol dydych chi ddim eisiau gwisgo blows wen eto, ydych chi?

Rwyf wedi canu ar hyd fy oes. Fe wnes i ganu gyda Chymdeithas Operatig Aberdaugleddau, Cymdeithas Operatig Hwlffordd, ac fel unawdydd pan oeddwn yn yr ysgol. Collais fy llais siarad tua thair blynedd yn ôl am ryw reswm anhysbys ac am gyfnod. Pan ddychwelodd, roedd fy llais canu wedi diflannu, ond rydw i bron yn 81 oed felly beth allwch chi ei ddisgwyl. Cymerais rolau soprano blaenllaw – fi oedd y Fam Abbess yn Sound of Music; Nettie Fowler yn Carousel ganu ganu You’ll Never Walk Alone ac i fnnau, fy nghân i yw honno! Mae'r gân yn rhoi croen gwydd i mi ac mae fy ngwallt yn sefyll yn syth pan fyddaf yn gwrando arnaf fy hun yn ei chanu hyd yn oed nawr. Mae’n rhan emosiynol iawn o’r sioe ac fe wnes i chwarae Nettie unwaith. Yna ychydig flynyddoedd ar ôl i mi ei chwarae, cefais gyfle i’w chwarae eto. Bu'n rhaid i mi gael clyweliad ar bob adeg a meddyliais i fy hun nad oes neb yn mynd i ganu hwnnw ond fi am yr eildro. Roeddwn i’n meddwl pe na bawn i’n cael y rhan na fyddwn i’n gallu bod yn y ddrama oherwydd ni allwn sefyll yn gwrando ar rywun arall yn ei chanu. Ond cefais y rhan, felly roedd hynny'n iawn.

Pan oeddwn yn blentyn roedd fy mam yn lanhawr i Dr Bernard Evans yn Hamilton Terrace. Roedd yn feddyg anhygoel ac yn gerddorol iawn ei hun. Y flwyddyn gyntaf roeddwn i yn yr ysgol ramadeg roedd gen i unawd i ganu ar gyfer diwrnod lleferydd ac yn amlwg oherwydd nad oeddwn i wedi bod yno y flwyddyn cynt, ni ddylai fy Mam fod wedi cael gwahoddiad i fynychu ond oherwydd fy mod yn canu cafodd hi un. Beth bynnag, fe wnes i ganu Wherer’er You Walk gan Handel. Clywodd dynes yn y gynulleidfa, a oedd yn athrawes ganu, y minnau’n datgan a chysylltodd â fy meistr cerdd yn yr ysgol i ddweud yr hoffai fy hyfforddi. Dywedodd wrthyf fi a fy mam ac mae'n rhaid ei bod wedi sôn am y peth wrth Dr Evans oherwydd dywedodd y gallwn gael gwersi ac y byddai'n talu amdano. Ac fe dalodd am fy ngwersi nes i mi briodi. Felly cefais wersi rhwng 11 a 18 mlwydd oed – pe na bai wedi talu ni fyddwn wedi cael gwersi oherwydd ni fyddem wedi gallu eu fforddio. Rwy’n ddiolchgar iawn i Dr Evans. Roedd yn bianydd hardd hefyd ac roedd ganddo baby grand yn ei fflat. Roedd yn ddyn hyfryd. Mae’n stori drist mewn ffordd ond roedd yn ffrind a daeth i’r ysgol a gwnaethom recordiad tâp iddo.

Rwy’n cofio nad oedd Dr Evans yn cael syrjeri ar brynhawn dydd Iau ac roedd mam yn arfer mynd i lanhau felly byddai’r feddygfa’n barod erbyn dydd Gwener. Un diwrnod roedd gweithwyr yn gosod y palmentydd. Roedd Dr Evans yn byw mewn fflat mawr uwchben y feddygfa. Roedd fy mam yn cerdded i lawr y ffordd a gwelodd y ddau weithiwr yn sefyll gyda'u dwylo ar eu rhawiau. A dyma nhw'n dweud wrth fy mam, “Wyt ti'n gallu clywed y llais yna? Merch fach sy’n canu!" a dywedodd fy mam “Gallaf, a hi yw fy merch innau!”. Roedd gan Dr Evans ymwelwyr yn ei fflat ac roedd y ffenestri ar agor ac roedden nhw'n gwrando ar y tâp ac felly roedd y gweithwyr yn ei glywed hefyd.

Roedd gan Wenmouth Harris a’i Dad siop drydanol yn Aberdaugleddau – a chymerodd recordiadau o fy llais i hefyd. Roedd ganddo’r recordydd tâp cyntaf i mi ei weld – peth arian mawr gyda dwy sbŵl, ac roeddwn i’n cerdded lawr Heol y Prior un penwythnos ac roedd yna bobl yn sefyll ar y palmant a gallwn glywed eu bod yn gwrando ar fy recordiad. A galwodd fi draw a dweud wrth bawb, “Dyma'r ferch fach rwyt ti'n gwrando arni!”

Mynychais sawl Eisteddfod yn lleol dros y blynyddoedd a phe baech chi’n ennill roedden nhw’n rhoi arian i chi – 5 swllt mwy na thebyg, a bydden nhw’n ei roi i chi mewn pwrs bach o waith llaw roeddech chi’n ei wisgo am eich gwddf. Dylwn i fod wedi cadw un ond mi ges i wared ar lot o stwff dros y blynyddoedd ac mae'n rhaid eu bod nhw wedi mynd hefyd. Mae cerddoriaeth a chanu wedi bod yn rhan fawr iawn o fy mywyd.

Symudodd fy ngŵr Paul a minnau leoliad sawl gwaith ar gyfer ei waith. Ar un adeg fe gawson ni dri symudiad mewn blwyddyn ac roedd gennym ni ddau o blant erbyn hynny a dywedais unwaith roedd David, fy mab, wedi dechrau yn yr ysgol nad oeddwn i’n symud eto. Felly, ym 1964, fe wnaethom ddychwelyd i Aberdaugleddau ac roedd Paul yn gweithio i Humphreys & Glasgow ac yn teithio yn ôl ac ymlaen am gyfnod. Ar ôl astudio blodeuwriaeth fe wnaethom agor siop flodau a’i rhedeg yn y dref am 27 mlynedd. Paul oedd y gwerthwr blodau ac roeddwn i'n arfer gwneud yr holl baratoi ar ei gyfer a'r danfoniadau. Yn yr amlosgfa roedden nhw'n gwybod mai blodau Paul ydoedd gan fod steil nod masnach da iawn ganddo.

Rwy’n hapus iawn i barhau i fyw yn Aberdaugleddau er bod fy mab David, a oedd yn athro yn byw yn Exmouth, ac mae fy merch Alison ac ŵyr Alex yn byw yn Southampton. Rwy'n dal i yrru ac yn mynd i ymweld â nhw. Mae'n cymryd ychydig o amser i mi ond mae gyrru yn mynd â fi i grwydro. Rwy'n mynd allan gyda fy ffrindiau am ginio ac rwy'n mynd i Theatr y Torch yn gyson. Rydw i wedi bod yn wirfoddolwr gyda’r heddlu ers 20 mlynedd. Rwy'n gweithio ar y cyfrifiadur gan gysylltu â chysylltiadau Gwarchod y Gymdogaeth ar draws yr ardal ac rwy'n cysylltu â busnesau lleol i wneud yn siŵr bod y wybodaeth dal allweddi sydd gennym ar eu cyfer yn gywir. Mae fy ngwaith wedi cael ei gydnabod nifer o weithiau fel y mae fy nghacen lemow!

Gallwch glywed Anita yn canu You’ll Never Walk Alone, a recordiwyd ym 1989 ar gyfer cynhyrchiad Cymdeithas Operatig Hwlffordd o Carousel, trwy glicio yma

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.