Arlunydd a thiwtor yng Ngholeg Sir Benfro cy-GB

gan Louise Sheppard

Mae mynegiant artistig yn rhoi cyfle i mi ymchwilio i'r hyn sydd o'm cwmpas ac yn caniatáu i mi archwilio'r hyn rwy'n ei ddarganfod. Mae'n cynnig cyfle i chwarae gyda deunyddiau a mwynhau rhyngweithio elfennau gweledol. Mae hefyd yn hynod ddiddorol, ac mae cael y cludiant ar gyfer astudiaeth greadigol yn bwysig iawn ar gyfer iechyd a boddhad bywyd yn gyffredinol.

Rwy’n hoff o safle daearyddol Sir Benfro o fewn y DU ac mae gallu cael byw ger yr arfordir yn bwysig i mi hefyd. Mae'r amrywiaeth o leoliadau tirwedd a daearyddol ymhlith cryfderau Sir Benfro, ac mae'r ffaith bod cymunedau creadigol ac unigolion yn byw yn y sir hefyd yn fantais. Ond y prif beth i mi yw ei fod wedi bod yn rhywle lle rydw i wedi gwneud cyfeillgarwch da iawn gydol oes.

Felly, fy hoff fan yn y sir yw Arberth. Mae mai gen i gariad mawr tuag at y dref - mae’n lle arbennig i fyw ac yn y gorffennol wedi bod yn hafan.

 

Mae’r holl rannau yn rhan o’r un corff o waith:

20 gwrthrych (smotyn pinc) - Mae'r print sgrin hwn yn cynrychioli casgliad o wrthrychau bach, plastig a geir ar strydoedd Abertawe, o fewn cyfnod penodol o amser. Wedi eu cael yn apelgar ac yn ddiddorol, roeddwn am ddathlu eu rhinweddau.

Hongian gwrthrych - Yma, fe wnes i greu sawl crog haenog sydd, unwaith yn rhagor, yn cynrychioli’r 20 gwrthrych a ddarganfuwyd gan ddefnyddio techneg argraffu devore i bwysleisio eu harddwch esthetig. I mi, beth bynnag!

Baner wrthrych - Print sgrin gan ddefnyddio papur cyswllt trosglwyddo, sy'n dyrchafu nifer o'r gwrthrychau trwy eu cynyddu'n sylweddol o ran maint.

Cerdyn crwban y môr - Creais 20 o gardiau post a oedd yn nodi amser, dyddiad a lleoliad darganfyddiad pob gwrthrych, gan ddefnyddio effaith rhyddhad debossed i gynrychioli cydnabyddiaeth eu bod yn bodoli mewn man penodol. Fe wnes i enwi'r gwrthrychau hefyd, gan ychwanegu rhywfaint o arwyddocâd ymhellach.

Crwban y môr - Dengys y print rhyddhad hwn un o fy hoff wrthrychau mewn cyfansoddiad mwy chwareus. Roeddwn yn archwilio’r syniad o amherffeithrwydd gydag anhryloywder inc, ond hefyd bod ei siâp yn fy atgoffa o ddelweddau gemau cyfrifiadur cynnar.

 

 

 

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.