Darganfod eich creadigrwydd cy-GB

gan Anwen Mai

Anwen Mai, 19 sy’n adrodd ei stori am greadigrwydd.

I minnau, mae creu pethau’n bwysig oherwydd credaf fod creadigrwydd yn rhywbeth nad yw pawb yn cofio gwneud amser ar ei gyfer ac fe ddylent. Mae gallu edrych ar y darn gorffenedig a meddwl "wow, y finnau wnaeth hwn" yn deimlad hyfryd a hyd yn oed os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniadau rydych wedi ymarfer y sgil ac felly byddwch chi’n well y tro nesaf. Credaf fod ein dawn o greu celf yn un o’r pethau sy’n gwneud i ni fod yn ddynol ac mae’n ein helpu i gysylltu gyda’n gilydd mewn dulliau nad yw geiriau yn unig yn gallu eu cyfleu.

Gwelaf fod creu pethau yn hynod therapiwtig, yn enwedig paentio. Gan ei fod angen cymaint o ganolbwyntio mae’n fy atal rhag poeni am bethau eraill ac yn ei wneud yn beth da i’w wneud pan fyddaf dan bwysau.

Mae sir Benfro yn agos iawn at fy nghalon gan mai dyma ble cefais fy magu ac oherwydd y golygfeydd bendigedig a’r holl ffrindiau yr wyf wedi ei gwneud. Credaf fod hyfrydwch yr ardal wedi rhoi gwerthfawrogiad gwych i mi o’r byd naturiol sy’n ffynhonnell o ysbrydoliaeth ac ysgogiad i edrych ar ôl yr amgylchedd. Rwyf wedi darganfod bod trigolion sir Benfro hefyd wedi fy ysbrydoli i greu celf ac mae’r rheiny yr wyf wedi eu cyfarfod trwy ganu, cerddoriaeth gwerin a gweithgareddau creadigol eraill bob amser yn gefnogol ac yn fy annog.

Fy hoff le yn Sir Benfro yw mynyddoedd y Preseli gan fod fy ffrind gorau yn byw yno felly mae gennyf nifer o atgofion hapus o dreulio amser yno :)

 

 

 

 

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.