Suzi Naomi MacGregor

Mae Suzi Naomi MacGregor (BMus, Prof.Dip Actio) yn ganwr/cerddor/athro llawrydd wedi ei lleoli yng Ngorllewin Cymru. Canu yw ei hangerdd, wedi cael ei chodi mewn teulu cerddorol ac wedi ei hyfforddi mewn llais ym Mhrifysgol Goldsmiths.

Dros y 7 mlynedd diwethaf, mae ei chysylltiad agos â natur a’r arfordir wedi dylanwadu’n gryf ar ei bywyd, ar ôl cael ei lleoli rhwng Sir Benfro a Costa Rica, gan archwilio ymarfer lleisiol a pherfformiad mewn mannau gwyllt. Ers dychwelyd i’r D.U yn llawn amser, mae Suzi wedi bod yn datblygu ei cherddoriaeth ei hun, yn ysgrifennu ac yn addysgu – yn gweithio ar ei phen ei hun ac ar brosiectau ar y cyd.

Wedi cerdded y Camino de Santiago yn 2019, cafodd wir ddiddordeb yn y cysylltiadau rhwng canu, cerdded, natur, creu yn fyrfyfyr a chwarae.

Ar hyn o bryd, mae Suzi yn archwilio Byrfyfyr Lleisiol Cyfoes gyda’r athro/perfformiwr Briony Greenhill, ac mae’n gwneud cynlluniau i recordio a rhyddhau ei halbwm cyntaf eleni.

Mae’r prosiectau ar y cyd mwyaf diweddar yn cynnwys:

  • Arwain cân a gweithdai lleisiol ar bererindod greadigol sydd ar ddod, gyda’r prosiect 'Ancient Connections.'

  • Ysgrifennu a recordio ar gyfer darn Theatr Glywedol o’r enw “Sorry Did I Wake You

  • Dyfeisio prosiect clownio cymunedol o’r enw “Frontyard Fools”, gyda’r artist perfformio lleol Angharad Tudor Price.

 

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.