Molara awen

Mae Molara yn gantores ysbrydoledig, cyfansoddwr caneuon, athro a pherfformiwr, roedd taid ei mam yn un o sylfaenwyr cymdeithas George Formby, a chefnder ei thad oedd Fela Kuti. Yn dilyn gradd BA Anrhydedd mewn drama a llenyddiaeth Ffrangeg, aeth Molara ymlaen i weithio mewn theatr yn y 1990au cynnar, cyn dod yn aelod gwreiddiol o’r arloeswyr dawns dyb Zion Train.

Mae wedi canu a recordio gydag ystod eang o fandiau ac artistiaid gan gynnwys Mad Professor, Femi Kuti, The Ruts DC a Baka Beyond.

Sefydlodd One Voice Choir yn 2005 i ddathlu ei chariad am dechnegau canu rhyngwladol, ac roedd yn un o sylfaenwyr The Narberth A Cappella Voice Festival yn 2008. Yn fwy diweddar, daeth yn ymddiriedolwr Natural Voice Network.

Mae hi wedi darparu darpariaeth addysgol o gerddoriaeth a'r celfyddydau i bobl oed 0 i 106, o wahanol alluoedd a chefndiroedd ers 1992, gan weithio i gwmniau fel Span Arts, National Theatre of Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae hi wedi ei swyno gan yr ymennydd ac mae hi wedi cael y fraint o weithio gyda phobl nad oedden nhw'n “niwro-nodweddiadol”, y rheiny gyda dementia a’r rhai sydd wedi goroesi strôc.

Trwy gydol ei bywyd, mae wedi ymgyrchu dros hil, cydraddoldeb cymdeithasol, ariannol a diwylliannol.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.