Liam Cole

Mae Liam wedi gweithio yn Theatr y Torch am 4 blynedd; a gwerthfawroga cael ei gyflogi fel Cynorthwyydd Marchnata Digidol. Mae e wedi dringo’r ysgol i’w swydd bresennol fel un o ddau Swyddog Marchnata a Chynllunio Digidol. Mae Liam yn byw yn Neyland, ar ôl iddo symud yn agosach i’w deulu wedi iddo raddio yn 2016 o Ysgol Celf Caerfyrddin (UWTSD) gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Darluniad Digidol.

Yn ystod Prosiect Stori Sir Benfro, mae Liam wedi bod yn gweithio’n agos gyda Mohamed Hassan, gan ddal proses casglu stori a golygfa leol trwy lens ei gamera Nikon. Roedd Liam yn adnabod Mohamed yn ystod ei amser a dreuliwyd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac mae e wrth ei fodd yn cael y cyfle i aduno a gweithio’n agos gydag ef eto.

Mae Stori Sir Benfro wedi galluogi Liam i ddarganfod rhannau o'r sir na chafodd gyfle erioed i ymweld â nhw; mae wedi bod yn brofiad gostyngedig a gwerth chweil cwrdd â chymaint o bobl ddiddorol ac iddo fod yn rhan o'r prosiect.

The Pembrokeshire Story

Through the Lens

Click on the images in the gallery to enlarge.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.