Jo Shapland

Mae Jo Shapland yn creu dawns trwy lif deunyddiau a gwrthrychau, delweddaeth ffilm, neu’r corff yn symud trwy le gwag. Hyfforddwyd fel dawnsiwr cyfoes, a nawr mae’n ymarfer celfyddydau milwrol / myfyrdod Asiaidd, syrcas awyrol a byrfyfyr. Mae’n parhau i archwilio dawns fewnol a’i effaith ar ymddangosiad a chreadigrwydd.

Mae ei phryderon craidd mewn perthynas ac ymateb i natur, gyda'r awydd i dystio trwy'r corff. Mae cysylltiad o natur ddofn yn rhan annatod o'i gwaith cyfan. Mae ei phrosiectau safle-benodol yn amrywio o adeiladau fferm adfeiliedig i theatrau prosceniwm traddodiadol; anialwch naturiol i bensaernïol mewnol trefol.

Cafodd ffilmddawns Shapland, Swyn-gân/Summoning (gyda’r bardd clare e potter, comisiynwyd gan National Dance Company Wales) ei gwneud yn hydref 2020. Comisynwyd ei ffilmiau Corvid gan Groundwork Pro yn Hydref 2020. (Y ddwy wedi eu hariannu gan GCC). Ym mis Ionawr 2020, perfformiodd Jo Told by the Wind (wedi ei chyd-greu gan Llanarth Group) yn Ngŵyl Theatr Ryngwladol Kerala, India (wedi ei hariannu gan WAI a ITFOK).

Yn 2019, comisiynwyd Jo i greu gwaith ar gyfer arddangosfa DACymru/Bay Art Cardiff 6 Artists (ariannwyd gan GCC). Mae uchafbwyntiau eraill ei gyrfa o 35+ mlynedd yn cynnwys: ennill Gwobr Fawr Creative Wales gyda Being in Place; dathlu ehangiad Mostyn, Llandudno, gyda [in]scape (wedi ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a PRSF); gan wneud ei chyfres o weithiau sensitif i safle Soluna (ariannwyd gan GCC).

https://mantroi.files.wordpress.com/2021/01/cv_jo_shapland_oct_2020.pdf

https://mantroi.wordpress.com/

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.