James Williams

Gwneuthurwr theatr a chyfansoddwr yw James Williams wedi ei leoli yn ne’r Sir. Mae wedi gweithio i amryw o gwmniau’n cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatre Royal Plymouth, National Theatre Wales, Neuadd Dewi Sant, Theatr y Sherman, Canolfan Mileniwm Cymru, Give it a Name, Hijinx Theatre a Triongl. Gweithia’n rheolaidd gyda myfyrwyr y Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae’n cyfarwyddo eu harddangosfa.

Ar gyfer Pirates of the Carabina, cyfarwyddodd James sioe theatr syrcas Flown wnaeth ennill gwobr Total Theatre yng Ngŵyl Caeredin a RUHM / Home a berfformiwyd yn y Roundhouse a’r Brighton Dome.

Cyfansoddodd nifer o sioeau cerdd yn cynnwys The Jolly Folly of Polly the Scottish Trolley Dolly a Shreds gyda Lesley Ross; Ninety-Seven, Unga Bunga the Stone Age Spectaculara Snow Queen gyda Scott Pryor a Vampyre gyda David Last.

Mae James yn Gyfarwyddwr Cysylltiol Theatr y Torch yn Aberdaugleddau ac mae wedi gweithio ar bob sioe Nadolig ers 1998. 

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.