Angharad Sanders

Wedi gweithio’n helaeth trwy’r DU ac yn America ac Iwerddon, mae Angharad yn gerddor, cyfarwyddwr cerdd a chantores uchel ei pharch. Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, derbyniodd Angharad B.Mus (anrh) ym Mhrifysgol Huddersfield ac yna fe wnaeth symud i Goleg Cerdd Leeds ble wnaeth ennill P.G.Cert mewn Cerddoriaeth Jas, Poblogaidd a Chyfoes cyn dod yn athro lleisiol yno am nifer o flynyddoedd.

 

Mae Angharad yn angerddol am weithio gydag artistiaid ifanc a thalentau’r dyfodol, wedi gweithio gydag eiconau Pop ac arweinwyr y West End a Broadway mewn rhai o ysgolion celfyddydau perfformio mwyaf blaenllaw'r DU, gan gynnwys; Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Arts Ed, London Studio Centre, G.S.A., Sylvia Young, Italia Conti, Midlands Academy of Musical Theatre ac, yn rhyngwladol, ar gyfer canolfannau hyfforddi blaenllaw Iwerddon: ACA Performing Arts, Cork a’r WestSide Stage School yn Nulyn ac yn yr UD; Stagedoor Manor yn Efrog Newydd.

 

Mae rhai o’i chredydau mwyaf diweddar yn y D.U ac yn rhyngwladol fel Goruchwyliwr /Cyfarwyddwr Cerdd yn cynnwys: Madagascar: The Musical Adventure (Taith Gyntaf y DU), Thoroughly Modern Millie (Blue Orange Theatre, Birmingham), Encore (Cork Arts Theatre), The Wizard of Oz (Dearne Playhouse), The Dreaming (Lichfield Garrick), Aladdin (Grimsby Auditorium), The Magic of the Musicals (C.C. Burton Brewhouse a Ch.C Cysylltiol ar gyfer Taith o’r DU), Dear Santa (The Helix, Dulyn), The Hired Man (Lichfield Garrick) Urinetown (Stanwix Theatre, Carlisle) The Wizard of Oz (Epsom Playhouse), Blonde Bombshells of 1943, (Upstairs at the Gatehouse, Llundain), Fragments: The Music of Gianni Onori, (The Union Theatre, Southwark, Llundain), Pieces Of String Cynhyrchiad Gweithdy, (The Tristan Bates Theatre, Covent Garden), The 8th Fold: Gala Concert (The Duchess Theatre, Llundain), Avenue Q (Upstairs at The Gatehouse, Highgate, Llundain) (Enillydd “Cynhyrchiad Gorau Oddi ar y West End”, The Mousetrap Awards 2014 a’r “London Fringe Production of the Year”, Gwobrau West End 2013), Mile High (Lost Theatre, Vauxhall, Llundain), Dangerous Daughters, (Stanwix Theatre, Carlisle) , Steel Pier (The Union, Southwark, Llundain). (Rhestr fer ar gyfer y Cynhyrchiad Gorau Oddi ar y West End (Gwobr What’s On Stage) Enwebwyd ar gyfer 6 Gwobr Oddi ar y West End).

 

Mae Angharad hefyd yn gantores enwog, gan iddi berfformio ar draws y DU fel unawdydd, a gyda bandiau megis My Live Music Big Band a’r Spice Fusion Big Band. Ers ail-leoli yn Ne Cymru i fagu ei mab, mae Angharad wedi bod yn hynod bles cael perfformio yn ei milltir sgwâr gyda bandiau cyffelyb, Soul Dragon, The Coastals a gyda’r Constellation Big Band. Mae hefyd yn gyfrifol am gôr cymunedol Lleisiau’r Torch ac mae’n cadw ei hangerdd ar gyfer addysgu byw, rhedeg Limelight School for Performing Arts, sef ysgol theatr ran-amser ar gyfer pob oed a Tickle Tunes, sy’n cynnig dosbarthiadau cerdd ar gyfer plant 0 i 5 ac oedolion.

 

 www.angharadsanders.co.uk

@angharadsanders

facebook.com/angharadsings

  

Angharad Sanders, Suzi Naomi MacGregor a Niall Quinn

Stori Sir Benfro

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.