..

Hanes y Prosiect

Rydym oll wrth ein bodd gyda stori dda, ond maent wir yn dda os ydynt yn taflu golau ar y lleoliad o ble rydym yn hanu...

Mae Stori Sir Benfro yn brosiect cydweithredol, dan arweiniad Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, a aeth ati i ddal straeon nas ddywedwyd neu anghofiedig Sir Benfro fel eu bod yn cael eu cofio am genedlaethau i ddod, fel y dywed gan y trigolion sy'n byw yma. Efallai y bydd stori yn rhywbeth mor syml â sut mae bywyd wedi newid dros y blynyddoedd neu gallai fod yn ddigwyddiad arbennig yr hoffech ei gofio. Mor aml mae'r straeon hyn yn aros fel chwedlau yn ein teuluoedd ein hunain, ond mae hwn yn gyfle i'w rhannu â'r byd. 

Deilliodd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Stori Sir Benfro o Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Peter Doran, a ddaeth o hyd i stori heb ei darganfod wrth siarad â’i dad a oedd yn dioddef gyda Covid-19 ar ddechrau’r pandemig yn 2020. Roedd Peter eisiau clywed straeon ei dad ac atgofion yn ystod yr amserau pryderus hyn. Pe na bai Peter wedi gwthio i'w clywed, efallai na fyddai'r straeon hyn erioed wedi cael eu hadrodd. Diolch byth, mae tad Peter wedi mynd ymlaen i wella'n llwyr a siarad am y straeon hyn ac eraill yn fwy manwl gyda gweddill ei deulu.  

“Ym mis Mawrth 2020 roedd gan fy nhad 90 oed Covid-19 ac felly fe wnaethom ni fel teulu symud i mewn i ofalu amdano. Diolch byth, mae wedi gwella’n llwyr erbyn hyn ond yn ystod y cyfnod hwn fe dreulion ni lawer iawn o amser yn sgwrsio ac yn hel atgofion; dywedodd wrthym am ei amser fel faciwî, ar ôl cael ei anfon o'i gartref yn Lerpwl i bentref Llanberis yng Ngogledd Cymru. Roedd yn stori hynod ddiddorol ac yn un na fyddem efallai erioed wedi clywed amdani oni bai am Covid-19. Rwy'n teimlo nad ydym yn treulio digon o amser gyda'n gilydd i ganiatáu i'r eiliadau hyn ddigwydd. Mae’n debyg ein bod oll mor brysur…” 

Mae pandemig Covid wedi ein taro oll yn galed, mae teuluoedd wedi gwahanu, yn methu â chyfarfod yn bersonol ac yn byw ar eu pennau eu hunain heb fawr o gyswllt â'r byd y tu allan. Mae Stori Sir Benfro wedi rhoi llwyfan i bobl gysylltu a siarad. Mae gan bawb stori i'w hadrodd a bydd Stori Sir Benfro yn caniatáu i'r straeon hyn gael eu recordio a'u hadrodd ar draws amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau. 

O syniad cychwynnol Peter o gasglu’r straeon coll o bob rhan o Sir Benfro, esblygodd Stori Sir Benfro yn brosiect cymunedol a oedd yn cwmpasu pob cornel o Sir Benfro, dan arweiniad James Williams, person creadigol o Ddinbych-y-pysgod. Mae James, ochr yn ochr â thîm o 10 o bobl greadigol Sir Benfro ar eu liwt eu hunain wedi casglu straeon o’u rhan nhw o’r sir, naill ai’n cael eu hadrodd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae'r straeon wedi cael eu dehongli gan y bobl greadigol, gan roi eu dawn artistig wrth gasglu straeon a hefyd adlewyrchu gwir ethos Sir Benfro. Fel y gallwch weld o'r wefan hon, mae'r straeon yn cynnig amrywiaeth, maen nhw'n llawn calon ac maen nhw'n cario ysbryd y rhan ryfeddol hon o'r byd. Ar ben y bobl greadigol sy'n ychwanegu eu straeon a gasglwyd, rydym wedi derbyn straeon gennych chi, trigolion Sir Benfro, wedi'u hadrodd oddi mewn ac allan o'r sir. Bydd y straeon hyn yn parhau i gael eu hychwanegu at Stori Sir Benfro, gan ei gwneud yn archif byw o’r Sir. 

Mae'r holl gyfraniadau wedi'u cyfuno i mewn i fideo terfynol sy'n adlewyrchu'r cam cyfredol hwn o'r prosiect – 'Stori Sir Benfro'. Mae'r clip 20 munud hwn yn adlewyrchiad o'r holl straeon a gasglwyd hyd yn hyn ynghyd â'r broses artistig o daflunio straeon ar rai o dirnodau mwyaf eiconig Sir Benfro. Yn hwyr yn y nos, yn ystod Ebrill 2021, ymunodd Ceri James a thîm technegol Theatr y Torch â James, tafluniwyd, gyda chaniatâd, fideo a gomisiynwyd yn arbennig o'r straeon ar y tirnodau hyn. Cafodd y tafluniadau hyn eu ffilmio a'u tynnu i greu pennod arall o straeon sy'n bwydo i'r fideo stori olaf. Bu’r tîm yn ymweld â Chastell Penfro, Glanfa Tŷ’r Drindod yn Burton Ferry, Capel yn Nhŷ Rhos, Siop Y Sgwâr ym Maenclochog, Twr Gwn Caergrawnt yn Noc Penfro, Castell Maenorbŷr, Castell Hwlffordd ac wrth gwrs ein cartref, Theatr y Torch. Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad parhaus trwy gydol y prosiect hwn. 

Rhaid rhoi diolch arbennig hefyd i Christopher Harris, Anwen Francis, Nexmedia, Stagetext, Bla Translate, WNONational Theatre Wales  ac unrhyw un arall sydd wedi helpu i lunio Stori Sir Benfro. 

Canlyniad Stori Sir Benfro yw gadael cymynrodd, i atgofion gael eu rhannu ac, yn bwysicaf oll, cysylltu cenedlaethau a chymunedau Sir Benfro gyda'i gilydd trwy adrodd straeon. Ysgrifennwyd y bennod gyntaf a bydd llawer mwy i ddilyn… 

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.

Darganfod mwy am sut y mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella eich profiad pori.